Dydd Mercher y Mabinogi #1 - Dafydd Davies-Hughes
Golygfa o’r Gwely a Brecwast lle bu Dafydd a finnau’n aros yn Harlech ar gyfer penwythnos o chwedleua a drefnwyd gan Tu Hwnt i’r Ffin yw’r llun uchod. Gyda chastell Harlech a mynyddoedd Gogledd Cymru fel cefnlen does dim rhyfedd bod ein trafodaeth wedi troi at y Mabinogi. Rwy’n nabod Dafydd ers lawer dydd a pan glywais y byddwn ni’n cyd-weithio yn Harlech roedd rhaid trefnu cyfweliad.
Y mae Dafydd yn storïwr, saer coed a chyfarwyddwr a’r ysbrydoliaeth y tu ôl i Fenter Felin Uchaf ym Mhen Llŷn. Roeddwn yn awyddus siarad â fe oherwydd ei gysylltiad cryf gyda thirwedd Cymru a’r Mabinogi a roedd yn fraint ac yn bleser gwrando ar beth roedd ganddo i ddweud ac rwy’n siwr y byddwch chi’n cytuno.
Yn ystod ein sgwrs fer llwyddon ni siarad am…
I’r dyfodol y mae’r straeon yn perthyn, nid i’r gorffenol
Tirwedd, hunaniaeth, Cymru
Sut mae’n profiad o’r straeon yn newid wrth i ni aeddfedu
Doethineb a chymhlethdod y straeon
Amhosibilrwydd gwhanu daioni a drygioni
Yn ystod y sgwrs sonion ni am y stori Persiadd y Shanahmeh a dihongliad y storïwr Guto Dafis o’r cymeiriad Manawydan o’r Mabinogi.
Your browser doesn't support HTML5 audio
Mae nifer o gyfweliadau yn y Gymraeg ar eu ffordd i gyd-fynd â’r gyfres Saesneg ei hiaith Mabinogi Monday. Mae croeso i chi adael unrhyw sylwadau neu gwestiynau hoffech chi eu gofyn i storïwyr yn y cyfweliadau sydd i ddod.