adrodd mythau

DSC02455.jpg

adrodd mythau

Mae mythau yn esbonio sut mae’r byd wedi’i greu ac yn esbonio’r grymoedd sydd yn gyrru’r byd a’r bodau ynddo. Yn aml iawn maen nhw ar ganfas eang ac ysblennydd ac yn gadael eu holion ar y dirwedd a’r rhai sydd yn adrodd y straeon. Maen nhw’n heriol, dwfn, hir a chymhleth ac yn y gweithdy hwn dysgwch chi sut i dreiddio i mewn i’r straeon enfawr, rhyfedd a gwych hyn gydag argyhoeddiad a hwyl.

Mae’r gweithdy hwn yn cynnwys…

  • enwi a galw - y mae enwau mytholegol yn dod â phresenoldeb y rhai a enwyd i mewn i’r gofod gyda’r rhai sydd yn adrodd ac yn gwrando

  • gwrando’n ddwfn - dod â’r gynulleidfa yn ddwfn i mewn i ddeunydd y myth

  • delio â strwythur - mae’r straeon hyn yn fawr ac nid bob tro â llinell naratif clir. Byddwn yn gweithio ar dynnu edau unigol y stori allan wrth barchu gwead cymhleth y cyfanwaith

  • defod - y mae gofod mytholegol hefyd yn ofod defodol ac edrychwn ni ar ffyrdd o ddod a defod i mewn i’ch gwaith mewn ffordd ystyrlon

  • deunydd cynorthwyol - defnyddio’r farddoniaeth, caneuon, cerddoriaeth a’r gelf weledol sydd ynghlwm wrth y myth

  • newid cywair wrth adrodd - mae angen cadw ein hystwythder a pherthynas agored gyda’n cynulleidfa

Mae’r gweithdy hwn yn deillio o fy ymchwil a pherfformiadau o ddeunydd mytholegol, yn bennaf o’r Mabinogi yn ogystal â chyfarwyddo a hwyluso storïwyr eraill sy’n gweithio ar ddeunydd o ddiwylliannau eraill. Gweithiais ar nifer o berfformiadau gydag India Dance Wales dros nifer o flynyddoedd gan adrodd mythau’r duwiau Hindw. Rwy hefyd wedi gweithio ar brosiectau sydd yn defnyddio hen greiriau megis bwyeill llaw a’r dirwedd lle cawson nhw eu darganfod gan gynnwys y Prosiect Mantell yn Sir Ddinbych oedd yn brosiect tair blynedd o hyd ac yn rhan o’r Olympiad Diwylliannol. Rwy wedi teithio dwy sioe wedi seilio ar ddeunydd y Mabinogi gyda’r cwmni cynhyrchi Adverse Camber.


Roedd perfformiad ddoe yn Creswell yn un o uchafbwyntiau fy nhaith. Teimlais fel taswn i wedi adennill rhan o fy niwylliant oedd wedi mynd ar goll oherwydd lle ces i ‘ngeni. Roedd perfformiad y straeon yn wych a gwrando arnyn nhw yn rhodd. Ces i fy nghymryd nôl miloedd o flynyddoedd nôl gan hynt y stori gyntaf yn y goedwig.
— Ken Hutchison, Artist gweledol o Awstralia
Atgoffa ni nad ar gyfer y rhai gwangalon yw mythau yw swyddogaeth y storïwyr gorau...dyma straeon am frenhinoedd a dewiniaid wedi eu cadw a’u chynnal ar gyfer y bobl. Mae gan Michael Harvey bresenoldeb trawiadol ar lwyfan ac yn gallu cyfuno elfennau diymhongar a hyderus ei pherfformiad yn fedrus ac yn ddiffuant. Mae wrth ei fodd gyda’r straeon. Pregethau ydyn nhw ac mae yn eu trin fel pe tasan nhw wedi tyfu yn fwy cyfoethog gydag amser ac nid dim ond ‘clasurol’. Dydyn nhw ddim wedi’i adrodd ‘ar ei newydd wedd’ neu mewn ffordd ‘gyfoes’ ond wedi’u cyflwyno wrth dorthysu.
— Gary Raymond - Wales Arts Review
Y mae ‘Breuddwydio Cae’r Nos’ yn eich tynnu i mewn i galon y Mabinogion. Fel mae prolog y sioe yn esbonio, byddwch eich cludo rhywle arall - i mewn i fyd rhithiol o chwant, dinistr, a drygioni lle mae brenin yn gallu clywed popeth, y mae menyw fyw yn gallu cael ei chreu o flodau, arwr yn hwylio mewn cwch o wymon a dewin yn tynnu cŵn a meirch o lawr y goedwig. Y mae’n hynafol, rhyfedd a hynod o brydferth a, pryd dych chi y tu fewn y stori, yn rhyfedd o gredadwy.
— Tony Jones, dramodydd