hyfforddiant ar lein

Y mae sesiynau hyfforddiant Michael yn union fel hyfforddiant Jedi ar gyfer storïwyr
— Daniel Allison - storïwr ac awdur
DSC04939.jpg

hyfforddiant a chyrsiau ar lein

Un o’r sesiynau mwyaf radical a pherthnasol rwy erioed wedi mynychu fel storïwr.
— Tim Ralphs, storïwr proffesiynol

Cliriodd yr hen Cofid pob dyddiad o fy nyddiadur felly rwy wedi hyfforddi gyda’r cwmni hyfforddiant ar lein Mirasee o Ganada er mwyn cynnig hyfforddiant ar lein i grwpiau ac unigolion. Hyd yn hyn, rwy wedi creu cwrs peilot a chwrs ar gyfer siaradwyr Cymraeg ac ym mis Chwefror dechreua i gyda grwp Almaeneg ei iaith.

Mae’r cwrs chwedleua ar lein yn cynnig hyfforddiant sylfaenol a hyblyg ac yn defnyddio dulliau ac ymarferion sydd yr un mor berthnasol i chwedleuwyr profesiynol a rhai newydd. Mae’r dulliau rwy’n eu defnyddio yn deillio o dros ugain o flynyddoedd o hyfforddi yn y cyrsiau blynyddol ym Mleddfa, mewn prifysgolion ac yn rhyngwladol. Rwy wrthi yn datblygu cyrsiau newydd a grwpiau cyd-hyfforddi fydd ar gael ar lein o fis Ebrill.

Rhowch eich e-bost mewn un o’r bylchau isod er mwyn cael gwybod rhagor…


Ymatebion o’r Cwrs Peilot a’r Cwrs Cymraeg

Y mae cwrs Michael yn llawn gwybodaeth sydd wedi’i chyflwyno mewn ffordd addfwyn a gofalgar. Gorffenais i’r cwrs gan deimlo’n fwy hyderus ac yn storïwr gwell. Byddwn yn argymell eich bod chi’n gweithio gyda fe os cewch chi’r cyfle.
GWNEWCH E, jyst ffeindiwch yr arian a GWNEWCH E
— Stacey Blythe, storïwraig a cherddor
Dyma ble darganfyddais hyder yn fy llais a fy arddull stori.
— Siân Miriam Parry, cantores a storïwraig
Mae Michael yn diwtor gyfeillgar, cefnogol a medrus. Creuodd gist trysor o adnoddau i roi yn fy ‘tool kit’ ac mae ganddo fo ddull hyfryd o arwain ac egluro, sydd yn codi hyder a hwyl ac yn creu awyrgylch gynnes a chefnogol yn gyflym iawn.
— Dr. Fiona Collins - storïwraig
Byddwn yn argymell y cwrs hwn yn fawr i unrhyw un. Mae Michael yn athro medrus iawn ac mae’n creu amgylchedd cefnogol iawn i ddatblygu sgiliau adrodd stori.
— Angharad Evans - artist cymunedol

Rhagor o ymatebion gan eraill sy wedi hyfforddi gyda Michael Harvey

Diolch i Michael am hwyluso’r darganfyddiad chwedleua dilys. Y mae’r deunydd a minnau bellach yn cyd-weu fel uned gan gyfuno’r dulliau amrywiol o adrodd a gyflwynwyd ganddo. Nid yw’r stori ar wahân bellach na wedi’i llwyfannu ac rwyf yn gadael iddi lifo. Bu’r darganfyddiad hwn yn hanfodol - diolch Michael am eich arbenigedd ac arweinyddiaeth.
— Siân Miriam Parry - storiwraig a chantores
Rwy wedi dechrau cymryd sesiynau hyfforddiant gyda Michael ac yn credu eu bod nhw’n hynod o ddefnyddiol. Ers amser hir rwy wedi teimlo bod fy chwedleua heb ddatblygu llawer. Ar ôl dim ond un sesiwn gyda Michael roeddwn yn gallu gweld y ffordd ymlaen yn glir. Y mae’r sesiynau yn llawn hwyl yn ogystal â bod yn heriol ac mae e’n rhoi nodiadau ysgrifenedig ar ôl pob sesiwn. Nid wyf yn gallu argymell y proses hwn yn ddigon.
— Daniel Allison, storïwr ac awdur
Y defnydd gorau o amser ac arian rwy’n gallu cofio. Gwellais i lawer mewn amser byr
— Jonathan Lambert - storïwr a cherddor
Mae gwahaniaeth mawr rhwng perfformiwr sydd dim ond yn pasio gwybodaeth ymlaen ac athro sydd yn creu gofod er mwyn i chi ddysgu’r hyn rydych chi’n barod i’w ddysgu ac yn cyd-gerdded gyda chi. Gwir athro yw Michael
— Alys Torrance, storïwraig ac actor
Y mae gan Michael arddull hamddenol a chefnogol sydd yn golygu ei bod hi’n hawdd arbrofi - ond mae’r dulliau â seiliau cadarn o wybodaeth a sgil.
— Dr. Steve Killick, storïwr a seicolegydd
Gweithdy Chwedleua gyd NT ar daith gyda War Horse

Gweithdy Chwedleua gyd NT ar daith gyda War Horse

Y mae hyfforddiant adrodd straeon Michael Harvey yn anhygoel. Dysgais i lawer am feistroli llif y stori ac am blethu’r gwahanol fydoedd sydd ynddi er mwyn creu cyfanwaith lliwgar ar gyfer y gynulleidfa. Rwyf yn gwerthfawrogi’n fawr ei ffordd naturiol, ysbrydoledig, deimladwy a sensitif o hyfforddi.
— Nana Tomova, storiwraig a fferyllydd
Meistr o storïwr yw Michael a hwylusydd medrus iawn. Y mae ganddo’r ddawn o greu awyrgylch hamddenol wrth eich cadw yn effro yn greadigol. Roedd y sesiynau tu hwnt o werthfawr gan fy nghynorthwyo datblygu llais mwy ystwyth a dilys.
— Deborah Gordon, storiwraig
Gweithdy Chwedleua gyda’r grŵp Seiba yn Twrci

Gweithdy Chwedleua gyda’r grŵp Seiba yn Twrci