gweithdai
Dyma fraslun o'r hyfforddiant rwy'n ei gynnig ar gyfer chwedleuwyr ac athrawon. Cliciwch ar y lluniau er mwyn cael gwybod mwy am weithdai penodol, a sut i gofrestru a thalu am gyrsiau cyfredol. Fel arfer mae llefydd yn mynd yn fuan ar ôl cael eu cyhoeddi felly tanysgrifio i fy rhestr e-bost fydd y ffordd orau i sicrhau mai chi fydd ymhlith y rhai cyntaf i glywed.
“Un o’r sesiynau mwyaf radical a pherthnasol rwy erioed wedi mynychu fel storïwr”
chwedleua ym Mleddfa
Rwy wedi bod yn arwain a chyd-arwain cyrsiau chwedleua yng Nghanolfan Bleddfa yn Sir Faesyfed ers dros ugain mlynedd lle cynhelir cwrs wythnos o hyd yn ogystal â chyrsiau byr ar agweddau penodol storïo. Mae'r cyrsiau yn bwcio nawr.
rhythm y chwedl
Mae rhythm yn rhan annatod y chwedl fel dull o adrodd ac fel rhan sylfaenol ei strwythur. Unwaith eich bod chi'n dechrau teimlo sut mae rhythm yn gweithio wrth adrodd mae posibiliadau di-ri yn ymddangos. Dysgir y cwrs hwn ar y cyd gyda'r gantores a chyfansoddwraig Pauline Down.
llais llafar
Dyma gwrs fydd yn eich galluogi i fagu perthynas creadigol a chyfoethog gyda'ch llais. Byddwn yn gweithio gyda thechnegau i greu mwy o atseinedd a phŵer yn eich llais a'ch gallu cynhenid i gyffwrdd y gynulleidfa'n ddwfn. Mae'r cwrs yn cael eu harwain ar y cyd gyda'r gantores a chyfansoddwraig Pauline Down.
adrodd mythau
Dewch a myth i weithiau arno a defnyddiwn ni nifer o dechnegau er mwyn treiddio i mewn i'r deunydd hynod a dwfn hwn a dechrau ei adrodd gydag argyhoeddiad a hwyl. Mae'r gweithdy wedi'i seilio ar ddulliau a helpodd creu y sioeau Hunting the Giant's Daughter a Breuddwydio’r Cae’r Nos gyda'r cwmni cynhyrchu Adverse Camber
Shakespeare y storïwr
Gweithiwn ni gyda geiriau Shakespeare ei hunan yn ogystal â'r straeon oedd yn gyfarwydd iddo . Mae'r gweithdy wedi seilio ar y gwaith paratoi ar gyfer y sioe Angerona ac arweinir gyda Paula Balbi.
“Roedd Michael yn wych, llawn hwyl ac egni a chafodd y gorau allan o bawb... Gweithdy gwych! Ysbrydoledig, dynol a hwyl. Roedd brwdfrydedd Michael yn gampus a roedd y grŵp yn dda iawn ac yn cyd-dynnu bob tro. Rwy’n gadael y gweithdy gan deimlo’n hyderus ac yn hapus...Penwythnos gwych. Rwy wedi dysgu cymaint am strwythur a chreadigrwydd chwedleua. Llawer i feddwl amdani. Darganfyddais i lawer o syniadau newydd a chyffrous... Wedi joio mas draw ac wedi dysgu llawer. Gweithdy gwych... Arweiniodd Michael y grŵp mewn ffordd ragorol a helpodd e fi yn aruthrol... Gweithdy rhagorol, defnyddiol, ymarferol a llawn hwyl! Roedd y cwrs wedi’i arwain yn dda iawn. Pobl gwych. Rwy’n teimlo’n llawn bywyd.”