Fersiwn beiddgar The Rape of Lucrece gan Shakespeare
Roedd y Rhufeiniaid yn arfer cadw delw un o'u duwiesau henaf a mwyaf dirgel mewn cilfach arbennig yn Nheml Pleser. Y dduwies Angerona oedd hon a hi oedd duwies y tristwch a distawrwydd sy wedi nodi bywydau merched sy wedi dioddef camdriniaeth ers Oes yr Hen Rufain a chynt.
Hanes Lucretia yw hon - hanes menyw a dorrodd y distawrwydd hwnnw. Ailadroddwyd y stori hon droeon gan awduron yr hen fyd, gan gynnwys Lifi ac Ofid, ac wedyn ymledodd trwy Ewrop cyn cael ei haddasu gan Shakespeare, meistr angerdd, gwaed a chomedi tywyll. Y mae'r addasiad beiddgar hwn yn cyfuno y gorau o chwedleua cyfoes gyda geiriau Shakespeare ac arddulliau theatraidd a gweledol.
Y mae Paola Balbi a Michael Harvey yn storïwyr ac arweinwyr hyfforddiant blaengar yn yr adfywiad cyfoes chwedleua yn Ewrop. Deilliodd y cynhyrchiad hwn o dair blynedd o waith arbrofol a sgwrsio dros nifer o brosiectau rhyngwladol
Mae'r perfformiad ar gael fel sioe awr o hyd gyda cherddoriaeth fyw gan Davide Bardi gyda'r opsiynau o weithdai ymarferol a rhai sydd yn delio a'r materion a godir gan y sioe.
mae'r sioe hon ar gael yn saesneg cliciwch yma am wybodaeth dechnegol