branwen cym

38456422652_57207e104c_o.jpg

branwen

chwedl a chân

Clasur o chwedl o'r Mabinogi sydd â pherthynas agos â thirwedd byw Cymru a'i phobl. Y mae ynddi drawsffurfiadau, hud a lledrith, cymeriadau eithafol, gwylltineb a hiraeth. Mae ffurf y stori yn herio confensiynau naratif llinellol ac yn ymestyn yn ddwfn y tu hwnt i resymeg arferol i fyd y freuddwyd a'r symbol sydd yn siarad yn huawdl â chynulleidfaoedd heddiw. Perfformir fersiwn hwn y stori gyda'r gantores a chyfansoddwraig  Pauline Down ac fe welwyd gyntaf ar lwyfan yr ŵyl chwedleua Festival at the Edge yn 2017 ac wedyn yng nghastell Harlech, lle mae rhannau pwysig y stori yn digwydd,  gyda'r ŵyl  Tu Hwnt i'r Ffin.

Mae'r sioe yn syml iawn ac yn addas i wyliau, clybiau chwedleua, teithio ar raddfa fechan a chyngherddau tŷ ac ar gael mewn fersiynau Saesneg, Cymraeg a dwyieithog. Mae'r caneuon i gyd yn y Gymraeg. Mae’r CD a mp3 i’w lawrlwytho o’r sioe gyfan ar gael yma.

Mae Michael a Pauline yn perfformio yn rheolaidd fel y deuawd Adlais ac yn arwain gweithdai chwedleua a llais a chwedleua a rhythm i storïwyr

 

Y mae Branwen yn ein cyfareddu o’r gair cyntaf nes bod swyn olaf y chwedl yn cael ei fwrw. Mewn un awr y mae byd cyfan o ryfeddodau, dirgelwch a hiwmor yn cael ei greu trwy chwedl a chân.

Y mae Michael Harvey a Pauline Down yn feistri eu crefft a llysgenhadon gwych dros draddodiadau a diwylliant Cymru. Dyma chwedleua ar ei gorau.
— Donald Smith, Cyfarwyddwr, Gwŷl Chwedleua Ryngwladol yr Alban
Michael Harvey a Pauline Down gyda’r sioe brydferth a chain ‘Branwen’. Chwedleua a chanu o’r ansawdd uchaf gyda chalon, grym a hud... Fersiwn arbennig o stori Branwen...roeddwn i wrth fy modd pan dynnodd Michael fap arfordir Cymru gyda’r gangen. Fel arfer perodd e i’r dirwedd ganu (a chanodd Pauline ei henaid). Sioe wirioneddol hudolus oedd Branwen. Diolch i Michael a Pauline. Dosbarth meistr o sioe oedd yn dod a dyfnder y teimladau y tu ôl i’r geiriau. Medrus a theimladwy
— ymateb alodau'r gynulleidfa, Festival at the Edge