chwedlau hud a lledrith

DSC08214.jpg

straeon hud a lledrith

Y mae prif gymeriad yn dechrau ar daith hir i lefydd newydd ac anhysbys. Efallai mai Croten y Lludw yw hi sy wedi ei cham-drin gan ei theulu neu’r trydydd tywysog gwan ac anobeithiol sydd yn camu i mewn i’r byd mawr heb syniad yn ei ben sut mae’n mynd i lwyddo. Ar eu hynt byddant yn dioddef yn ddirfawr ac yn aml, nabod anobaith a newyn ond dal i gadw agwedd bositif a hael i’r byd a’r bodau sydd yn byw ynddo. Efallai byddant yn dod ar draws grymoedd elfennol fel tân, dŵr a gwynt. Mwy na thebyg byddant yn cyfarfod anifeiliaid a chymeriadau hynafol a chaiff eu caredigrwydd tuag atynt eu had-dalu llawer gwaith. Ar ddiwedd y stori bydd eu hagweddau hael, greddfol a dilys yn dod â nhw at hapusrwydd a bodlondeb ac, wrth gwrs, bydd ‘na briodas. A phriodas i’w chofio fydd hi hefyd!

Gweithdy Chwedleua yn Nhwrci

Gweithdy Chwedleua yn Nhwrci

Dyna, yn fras, yw ffurf stori hud a lledrith. Maen nhw’n rhan bwysig repertoire un rhywun sydd yn adrodd straeon traddodiadol ac mae cynulleidfaoedd o bob oedran wrth eu boddau gyda nhw ac yn suddo i mewn i fyd y stori wrth wrando. Ond sut ydyn ni, fel storïwyr, yn tywys y gynulleidfa trwy’r dryslwyn? Sut ydyn ni’n dod o hyd i’r grym y tu ôl i cliché’r diweddglo ‘a buon nhw’n byw’n hapus byth wedyn’? Sut ydyn ni’n gallu creu ofn credadwy gyda chymeriadau fel y cawr a’r wrach? Sut ydyn ni’n treiddio i mewn i fydoedd naturiol, goruwchnaturiol, a dynol sydd yn crefu ein sylw yn mewn fformat sydd mor syml ei olwg?

Dyma rhai o’r cwestiynau byddwn ni’n ateb yn y gweithdy hwn gyda gweithgareddau ymarferol fydd yn dod â’r straeon hyn yn fyw. Byddwn ni’n dysgu sut i ddefnyddio’r corff a’r llais i fynd i mewn i fyd y stori a magu dealltwriaeth strwythur y math hwn o stori er mwyn bywiocáu y gweithredai a theimladau sydd ynddynt.

Rwy’n adrodd Straeon Hud a Lledrith ers dros ugain o flynyddoedd ac yn arwain gweithdai a chyrsiau i storïwyr newydd, profiadol a phroffesiynol fel ei gilydd. Bydda i’n dod â ffrwyth dros ugain mlynedd o berfformio ac ymchwilio yn ogystal â’r hyn rwy wedi dysgu oddi wrth arweinwyr creadigol (gan gynnwys Adverse Camber, Abbi Patrix, Miranda Tufnell, Gilly Adams a Sue Fox, John Wright, Eric Franklin etc.) a’r amser treuliais i gyda’r 3ydd Labo (grŵp chwedleua arbrofol canolfan La Maison du Conte ger Paris).

Roedd Michael yn wych, llawn hwyl ac yn rhoi hwb a hyder i’n hymdrechion. Cafodd y gorau mas o bawb.

Gweithdy gwych! Ysbrydoledig, cynnes a hwyl. Roedd brwdfrydedd Michael yn fendigedig ac roedd y grŵp yn wych ac yn cyd-dynnu. Rwy’n mynd adre yn hapus ac yn hyderus.

Penwythnos bendigedig. Rwy wedi dysgu llawer am strwythur a chreadigrwydd y chwedl. Llawer i feddwl amdani. Dargyanfyddais i lawer o syniadau newydd a chyffrous.
Wedi joio mas draw ac wedi dysgu llawer.

Gweithdy gwych. Arweiniodd Michael y gweithdy mewn ffordd benigamp a helpodd e fi yn ddirfawr.

Gweithdy defnyddiol, ymarferol a llawn hwyl. Wedi’i arwain yn dda iawn. Pobl wych. Rwyf yn teimlo’n llawn egni ac yn barod i fwrw ‘mlaen.

Gwych. Roedd Michael bob amser yn ein hannog i fynd yn bellach. Llawer o awgrymiadau ar sut i baratoi ac ymarfer. Roedd yr ymarferion strwythur yn hynod o ddefnyddiol. Rhoddodd hwb i fy hyder.

Phrofiad gwych. Dysgais i lawer a chwrddais â phobl arbennig.
— adborth gweithdy