cwrs chwedleua cymraeg

Cwrs chwedleua cymraeg am ddim gyda storïwr arobryn a rhyngwladol, Michael Harvey. Mae’r cwrs yn dechrau ar Dachwedd 24, 2020.

Rwy’n teimlo’n fwy hyderus a brwd ac yn sicr rwy’n adrodd straeon yn well. Os cewch chi’r cyfle, byddwn i’n argymell gweithio gyda Michael.
— un o gyn-fyfyrwyr y cwrs diwethaf
warhorseworkshopbridgendcollege%C2%A9kirstenmcternan-41.jpg

Cwrs Chwedleua Cymraeg

Croeso i Gwrs Chwedleua Cymraeg gyda Michael Harvey


Mae’r cwrs hwn yn llawn



Michael Harvey ydw i ac rwy’n adrodd straeon traddodiadol i bobl o bob oedran ers bron 25 o flynyddoedd. Yn yr amser hynny rwy wedi perfformio a hyfforddi eraill trwy Gymru benbaladr ac yn rhyngwladol. Enillais Wobr Fawr Cymru Creadigol er mwyn ymestyn f’ymarfer yn 2011 ac wedi cyd-weithio gyda nifer o gyrff diwylliannol gan gynnwys Amgueddfa Genedlaethol Cymru, yr Eisteddfod Genedlaethol S4C, BBC Cymru/Wales ac eraill.

Mae gwybodaeth y cwrs isod gydag ymatebion rhai sy wedi astudio gyda fi ar lein eleni. Mae ffurflen fer i’w llenwi os hoffech chi ymuno â’r cwrs. Rwy wedi ateb y cwestiynau mwyaf cyffredin isod ond os oes unrhyw gwestiynau eraill gyda chi mae croeso i chi holi gan ddanfon ebost ataf.

Rwy wedi dysgu sgiliau go iawn a byddaf yn eu defnyddio yn aml iawn
— un o gyn-fyfyrwyr y cwrs diwethaf

Beth yw Chwedleua? Adrodd stori o’r cof heb sgript gan ail-greu llif y stori o flaen cynulleidfa. Mae adfywiad byd-eang yn y grefft o adrodd straeon ac mae gan Gymru un o wyliau pwysicaf ym myd y chwedl, Beyond the Border (Parc Dinefwr, Llandeilo). Mae clybiau adrodd straeon mewn sawl tre yng Nghymru ac mae storïwyr yn gweithio mewn ysgolion, theatrau a mannau eraill.

Beth yw diben y cwrs? Bydd y cwrs hwn yn eich galluogi i gymryd stori draddodiadol (tua deng munud o hyd) o’ch dewis chi, ei dysgu, ei datblygu a’i pherfformio i gyhoedd byw neu ar lein. Bydd y dulliau ac agweddau ar gael i chi ar ôl y cwrs er mwyn i chi barhau gyda’r gwaith o baratoi ac adrodd straeon. Mae croeso i chi weithio ar chwedl o Gymru neu unrhyw wlad arall.

Ar gyfer pwy mae’r cwrs hwn ? Mae’r cwrs yn addas i unrhyw un dros 15 oed sydd eisiau adrodd straeon traddodiadol. Mae croeso i bobl sydd yn adrodd yn barod a rhai sy erioed wedi mentro. Rwyf yn cymryd fy nghyfrifoldeb gofal ac amddiffyn plant o ddifri a gofynnir i rai o dan 18 sydd am wneud y cwrs fy rhoi mewn cysylltiad â rhiant neu warchodwr/wraig cyn ymuno.

Pa fath o stori fyddwn ni’n eu hadrodd? Mae’r cwrs yn canolbwyntio ar straeon traddodiadol ond mae’r un dulliau yn addas ar gyfer straeon personol neu hanesyddol. Dewis straeon o gasgliadau gwahanol a chreu eich repertoire eich hunan yw un o dasgau sylfaenol unrhyw storïwr neu storïwraig ond bydd detholiad o straeon traddodiadol byr ar gael i chi ar wefan y cwrs.

Ar ôl gorffen y cwrs roedd y dulliau ‘da fi i wella a dyfnhau fy chwedleua a’r hyder a hwyl i barhau ar ôl i’r cwrs orffen
— un o gyn-fyfyrwyr y cwrs diwethaf
DSC_1587.jpg

Pa fath o gwrs fydd hi? Cwrs ar lein yw hwn wedi’i gyflwyno gyda zoom. Bydd Michael yn cyflwyno gweithgareddau a thechnegau a bydd cyfle i chi ymarfer mewn grwpiau bach. Crëir gwefan bwrpasol lle gallwch chi ail-edrych ar fideos y cwrs a gweld trosolwg ac esboniad o brif bwyntiau pob gwers. Cadwn ni’r niferoedd yn weddol fach gydag uchafswm o 12 yn y grŵp.

Fydd fy Nghymraeg i yn ddigon da? Os dych chi wedi llwyddo darllen hyd yma mae’ch Cymraeg yn hen ddigon da. Mae croeso i ddysgwyr a phobl lai hyderus eu Cymraeg. Yn fras, os oes TGAU Cymraeg gyda chi a dych chi’n gallu cynnal sgwrs dylai popeth fod yn iawn. Cwrs llafar yw hwn fydd yn defnyddio Cymraeg llafar bob dydd. Mae croeso i chi gysylltu â fi os oes unrhyw amheuon neu gwestiynau gyda chi.

Sut ydw i’n tanysgrifio? Llenwch y ffurflen islaw, os gwelwch yn dda.

Beth yw’r ffi? Cwrs rhad ac am ddim yw’r cwrs hwn diolch i gefnogaeth Cyngor Celfyddydau Cymru a Llywodraeth Cymru.

Pryd ydw i’n dechrau? Mae’r cwrs yn dechrau ar nos Fawrth Tachwedd 24 am 7pm. Bydd y cwrs yn rhedeg am bum wythnos ar yr un amser. Rhagfyr 22 fydd y sesiwn olaf. Mae’n bwysig eich bod chi’n mynychu pob sesiwn. Bydd y dulliau dysgu yn ymarferol, cyfranogol ac yn hwyl!

Cwrs gwych i wella’ch chwedleua. Mae dyfnder y gwaith yn drawiadol ac mae teimlad o gymuned o fewn y grŵp yn rhoi egni a hyder i chi.
— un o gyn-fyfyrwyr y cwrs diwethaf
Roedd cwrs Michael yn drawsnewidiol. Y mae Michael yn athro hael a doeth ac rwy wedi dod yn rhan o gymuned gwych o gyd-chwedleuwyr
— un o gyn-fyfyrwyr y cwrs diwethaf
Mae Michael yn hwylusydd penigamp a phositif. Beth bynnag yw eich profiad, mae ganddo’r gallu i’ch cefnogi a datblygu’ch chwedleua.
— un o gyn-fyfyrwyr y cwrs diwethaf
logos.png