Y mae tri mab a brenin yn gadael y castell er mwyn dod o hyd i'r afalau aur hudol - yr unig foddion allai wella eu tad sydd ar ei wely angau. Dilynwn ni'r llanc ifancaf ac yn cwrdd ag anifeiliaid sydd yn gallu siarad, tywysoges hardd a dewr, a chyn y diwedd bydd hyd yn oed cyfle i ddawnsio gyda'r sipsiwn yn y coed a dathlu gyda Theulu Abram Wood. Y mae Jac yn mynd ar gyfres o anturiaethau ond, heb wybod iddo, mae'r perygl mwyaf yn agosach na'r disgwyl!
Chwedleua hudolus, cerddoriaeth cyfareddol, diweddglo hapus a llond pen o atgofion i chi fynd adref â nhw i'w rhannu.
Stori a gasglwyd gan Francis Hindes Groome oddi wrth John Roberts yw sail y sioe hon. Brodor o Drenewydd oedd John Roberts a chwedleuwr a thelynor Romani o fri. Comisiynwyd y sioe gan Theatr Clwyd a pherfformiwyd gyda Gwenllian Rhys. Dyfeisiwyd gydag a chyfarwyddwyd gan Paula Crutchlow gyda gwaith cyfarwyddo ychwanegol gan Tim Baker. Perfformiwyd yn y Gymraeg a Saesneg ar gyfer plant Bl. 1 a 2 a'u hathrawon. Perfformiwyd y sioe mewn pabell wedi'i goleuo oddi allan. Cyrhaeddodd y gynulleidfa trwy dwnnel o ddeunydd tywyll a goleuadau bach i greu profiad wirioneddol hudolus. Sioe chewdleua yw hon, felly does dim sgript. Roedd y ddau ononon ni yn nabod y stori ac adroddon ni fel ni ein hunain. Weithiau roeddwn ni’n ymgorffori cymeiriadau ond heb ddiflanu y tu ôl iddyn nhw. Achos bod dim sgript roedd modd newid pwy oedd yn adrodd pa ran o’r stori. Pan deimlon ni ein bod ni’n cwympo i mewn i rhigol byddwn ni’n newid y patrwm yn fwriadol er mwyn aros yn ffres.