Y mae’r llais wrth wraidd ein gwaith fel storïwyr ond mae gan gryn nifer ohonon ni fawr o glem sut i weithio gyda hi a’i datblygu. Yn y gweithdy hwn y byddwch yn dysgu nifer o dechnegau ac agweddau syml ac effeithlon fydd yn eich galluogi i adrodd gydag argyhoeddiad a hyder, cysylltu â’ch cynulleidfa mewn ffordd uniongyrchol a hyblyg a chael rhagor o foddhad a mwynhad o’ch gwaith ym maes y chwedl.
Cwrs ymarferol yw hwn fydd yn trawsnewid eich perfformiadau gan roi’r arfau i chi fydd yn eich helpu i ddatblygu llais chwedleua ddilys ac ymgorfforedig yng nghwmni dau hwylusydd a pherfformiwr penigamp. Gweithiwn ar sut i ddatblygu lleisiau cryfach ac mwy rhydd a dod â’r ansoddau hyn i mewn i’ch chwedleua. Gweithiwn ni fel grŵp cyfan, mewn grwpiau bach ac mewn parau.
Y mae Michael Harvey wedi gweithio trwy’r byd gan adrodd straeon traddodiadol ac arwain gweithdai. Tirwedd a chwedlau o Gymru yw ei gynefin creadigol ac mae wedi gweithio yn helaeth gyda’r cwmni cynhyrchu Adverse Camber gan deithio’r sioe arobryn Hunting the Giant’s Daughter (fersiwn ffyddlon a chyfoes y chwedl Culhwch ac Olwen) a Breuddwydio’r Cae Nos/Dreaming the Night Field sydd ar gael mewn fersiynau dwyieithog a Chymraeg. Enillodd e wobr Cymru Creadigol a buodd e yn aelod o’r trydydd grŵp arbrofol ‘le Labo’ yn La Maison du Conte ger Paris.
Athrawes llais, cantores a chyfansoddwraig yw Pauline Down ac un o sylfaenwyr y Natural Voice Network. Y mae hi’n arwain corau cymunedol, cynnal sesiynau ar gyfer unigolion a grwpiau bach er mwyn hybu hyder a sgiliau llais. Mae hi’n arweinydd ym maes Canu a Lles. Y mae ganddi brofiad helaeth yn y theatr ac mae hi wrth ei bodd yn perfformio barddoniaeth a chanu harmoni a cappella gyda grwpiau megis y Chalk Circle Collective.