difyr heb lyfr

doc penfro - adrodd.png

difyr heb lyfr

llafaredd, llythrennedd a'r Gymraeg fel ail iaith trwy adrodd straeon

Y mae Difyr heb Lyfr yn ddull effeithiol a syml a grëwyd er mwyn hybu galluoedd ieithyddol disbyblion CA1 a 2 gan ddefnyddio adrodd straeon fel sgil craidd. Wrth wneud hyn y mae cylch rhinweddol o her, hwyl a llwyddiant yn cael ei greu sydd yn cael effaith uniongyrchol ar allu'r plant i wrando, deall, cofio ac ysgrifennu ar draws yr ystod o alluoedd. Does dim angen offer na meddalwedd arbennig -  dim ond chi, y plant a beth bynnag sydd yn y cwpwrdd yw beth sydd angen. Mae'r dull yn addas ar gyfer plant iaith gyntaf a, gyda rhai newidiadau, ar gyfer plant Cymraeg ail-iaith.

Rwy'n storïwr ers mwy nag ugain mlynedd a rwy wedi ennill wobr Cymru Creadigol (Cyngor y Celfyddydau) a gwobr BASE ar gyfer rhagoriaeth ym myd y chwedl. Gweithiaf yma a thramor yn y Gymraeg a Saesneg a, phob hyn a hyn, yn Ffrangeg a Phortiwgaleg. Gweithiaf yma a thramor gan gynnwys Gŵyl Chwedleua Genedlaethol yr Unol Daleithiau yn Jonesboro, Tennessee. Mae gen i radd BA (Hons.) Saesneg ac Athroniaeth o Brifysgol Nottingham a BEd. (Hons.) Hyfforddiant Galwedigaethol o Brifysgol Caerdydd. Rwy'n dysgu athrawon sut i ddefnyddio straeon ar lafar yn y dosbarth ers dros ddeng mlynedd ac yn darlithio yn rheolaidd mewn prifysgolion.

 

Llafaredd i Lythrennedd

Er bod llyfr yn beth gwych unwaith eich bod chi ei roi fe lawr a dechrau adrodd ar lafar mae byd cyfoethog, pleserus a gwerthfawr tu hwnt yn nhermau addysgol o'ch blaen. Ar lafar y mae straeon yn dod yn rhan o brofiad y gwrandawyr mewn ffordd uniongyrchol a byw. Y mae'r cymeriadau a hynt a helynt eu bywydau yn dod yn bwysig i'r rhai sy'n gwrando sydd yn rhoi hwb iddynt barhau gyda'r gwaith dilynol ac mae heriau o roi geiriau i lawr ar bapur yn lleihau wrth i'r plant ymroi i'r stori.

Cyfrwng ystwyth a chyfranogol yw'r chwedl ar lafar ac, achos bod dim sgript, gallwch addasu'r stori er mwyn canolbwyntio ar elfennau addysgol gwahanol, er enghraifft cysyllteiriau, deialog, neu ysgrifennu disgrifiadol. Y mae'r newidiadau naturiol sydd yn rhan annatod stori lafar yn modelu sgiliau amrywio sydd angen ar y dysgwyr ar gyfer eu hysgrifennu creadigol eu hunain.

Rwy'n annog athrawon i ddefnyddio arddull cyfranogol gan gynnwys defnyddio ystumiau gyda'r cysyllteiriau a defnydd lluniau syml ar gyfer dysgu ail iaith. Unwaith bod yr athrawon wedi adrodd y stori nifer o weithiau i'r dosbarth mae'r disgyblion yn barod i adrodd mewn grwpiau bychain a pharau a chyn hir mae eu hyder a gallu yn tyfu. Gweler y fideo isod o Ysgol Gymunedol Doc Penfro sy wedi defnyddio'r dull hwn er mwyn gwella ei chyrhaeddiad yn y Gymraeg fel ail iaith ar ôl cyflwyno dull Look no Book i bob dosbarth yr ysgol yn Saesneg.

Gweithio dros gyfnod o flwyddyn academaidd yw'r patrwm arferol gyda diwrnod o hyfforddiant dwywaith y tymor, ar ddechrau'r hanner tymor. Rwy'n treulio hanner diwrnod gyda staff CA1 a'r hanner arall gyda staff CA2. Erbyn diwedd y sesiwn bydd yr athrawon wedi gweld sesiwn stori gyda'r plant, wedi dysgu ac ymarfer y stori ac wedi ei hadrodd mewn parau i grwpiau bach o blant. Mae blog yn cael ei greu yn arbennig ar gyfer yr ysgol sydd yn cynnwys fideos a sgriptiau o'r straeon (ar gyfer Cymraeg ail iaith) a lluniau lle bo angen. Mae'r straeon yn addasiadau o straeon traddodiadol neu rhai wedi creu yn arbennig ar gyfer yr ysgol er mwyn canolbwyntio ar elfennau ieithyddol penodol neu i gyd-fynd â phynciau a themâu’r tymor.

Mae ansawdd a hyd y gwaith ysgrifenedig wedi gwella’n arw... Mae defnydd cysyllteiriau yn treiddio i mewn i waith ysgrifenedig arall. Y mae disgyblion oedd yn ysgrifennu dwy linell ar y mwyaf ym mis Medi bellach yn ysgrifennu dros un ochr papur A4. Ardderchog. Arddull personol yn dechrau ymddangos... mwy o annibyniaeth. Ymwybyddiaeth ymhlith y rhieni - adrodd yn y teulu. Mae’r eirfa well gyda nhw - rwy wedi syfrdanu. Hyder! Awyddus. Mae nifer o ddisgyblion ‘gwannach’ Bl 4 wedi goddiweddyd eraill. Nawr maen nhw’n cyd-dynnu a helpu ei gilydd. Does dim diymadferthedd tactegol bellach. Geirfa ehangach - o ble mae’n dod? Rwy wrth fy modd gyda’r dull... Brwdfrydedd a hyder. Maen nhw eisiau gweithio ac yn gorfod cael ei ddanfon allan i chwarae. Y mae brwdfrydedd ymhlith y plant ar gofrestr anghenion cymdeithasol ac emosiynol sydd â phroblemau gyda gwaith academaidd ac ysgrifennu.
— teacher feedback, storytelling into literacy

Adrodd Straeon a'r Gymraeg Fel Ail Iaith

Enillodd Ysgol Gymunedol Doc Penfro wobr y bobl cystadleuaeth Shwmae! Sir Benfro ar ôl cyfnod o hyfforddiant Difyr Heb Lyfr. Cafodd welliant safonau Cymraeg fel ail iaith sylw arbennig gan Estyn yn ei adroddiad diweddar. Yn nhyb y brifathrawes roedd gan y cynllun Difyr Heb Lyfr rôl hanfodol yn y trawsnewidiad hwn ac mae'r ysgol dal i ddefnyddio'r straeon dysgais i'r staff yn llwyddiannus.

Welsh second language in Pembroke Dock Community School

Rydym dal i ddefnyddio eich casgliad o straeon Cymraeg bob tymor. Nid wyf yn gallu eich diolch chi’n ddigon am y gwaith rhagorol a wnaethoch chi gyda’r ysgol, a’n helpodd ni i wella’n arw.
— Michele Thomas, Pennaeth, Ysgol Gymunedol Doc Penfro
Y mae brwdfrydedd Michael dros chwedleua yn heintus ac wedi gyrru’r ethos Cymraeg trwy’r ysgol. Y mae Michael wedi gweithio gyda phob blwyddyn yr ysgol gan rannu’r straeon a’u cofnodi ar fideo ac wedyn cefnogi’r staff i ddod i arfer â’r straeon oedd yn aml yn golygu adolygu geirfa allweddol, rheolau gramadegol ayb. Mae’r straeon ar gael ar y blog a grëwyd gan Michael Harvey yn arbennig ar gyfer y cwrs. Y mae Michael yn gwylio’r athrawon yn adrodd y stori i grŵp o blant ac yn rhoi adborth lle bo angen. Mae yn ein hannog i werthuso’n perfformiadau a thrafod ffyrdd o wella’r straeon. Mae Michael yn cynnig nifer o strategaethau chwedleua i’w rhannu ac mae wastad yn ein hannog i fynd amdani. Y mae wedi dymchwelyd y rhwystrau i ddysgu Cymraeg fel ail iaith trwy chwedleua a arweiniodd i ni ennill gwobr ‘Dewis y bobl Shwmae Sir Benfro’.
— Cymuned Dysgu Cymraeg Ail Iaith Ysgol Gymunedol Doc Penfro