Magwyd yn y goedwig wrth i drais ormesu’r byd o’i gwmpas mae Peredur yn teithio i lys Arthur ac yn gweld bod yr hen oes ogoneddus a fu wedi hen ddod i ben. Mae e’n dod yn rhyfelwr ac yn ennill nerth a gallu oddi wrth rymoedd y fall - grymoedd a fydd ein harwr yn gorfod eu hwynebu erbyn diwedd y stori. Fersiwn cyfoes hanes clasurol yw hwn ar gyfer cynulleidfaoedd heddiw gan rai o brif ddehonglwyr y grefft lafar yn Ewrop.
Gweithiais i gyda'r storïwr Marien Tillet a'r cerddor Alexandra Grimal sy'n cyfri'r Orchestre National de Jazz fel un o'i bandiau. Dechreuon ni gan wrando yn ddwfn â'r testunau astrus ac anodd hyn cyn mynd ati mewn proses o fyrfyfyrio a amlygu'r themau a delweddau ar gyfer cynulleidfaoedd heddiw, cyfarwyddwyd gan Abbi Patrix.
Rhywbryd yn ystod y canol oesoedd cwrddodd beirdd a chyfarwyddiaid proffesiynol o Gymru a Ffrainc a dechreuodd rhan gyntaf y proses o gyfnewid a esgorodd ar Peredur fab Efrog ar un ochr a Perceval le Gallois ar y llall. Ymledodd y themâu a delweddau o'r straeon hyn trwy Ewrop i gyd gan gynnwys y Brenin Arthur, y Greal Sanctaidd, y Brenin Cloff ac arferion sifalri sydd yn atseinio hyd at weithiau mawr yr Adfywiad Rhamantaidd Almaeneg gan Goethe, Wagner a'u tebyg.
Daeth syniad y prosiect pan o'n i'n cymryd rhan yn y trydydd Labo (cyfres o sesiynau arbrofol ar gyfer storïwyr proffesiynol a gynhaliwyd gan ganolfan chwedleua flaengar La Maison du Conte dros gyfnod o 18 mis). Cyn hir dechreuais i sgwrsio gydag Abbi Patrix (cyfarwyddydd y Labo ac un o sylfaenwyr yr adfywiad chwedleua yn Ewrop) ac wedyn es i ati i ffeindio'r partneriaid cynhyrchu a'r artistiaid.
Partneriaeth rhwng Beyond the Border a La Maison du Conte oedd y prosiect a ariannwyd gan Gyngor Celfyddydau Cymru