Shakespeare y storïwr
O Shakespeare i chwedleua a nôl gyda Paola Balbi a Michael Harvey
Gweithdy dwys sydd yn cymryd dramâu a ffynonellau Shakespeare ac yn ei ail-osod mewn byd llafar. Gweithiwn ni gyda thestunau Shakespeare, a straeon a’i hysbrydolodd ac arddull adrodd deinamig. Mae’r gweithdy yn para rhwng dau a thri diwrnod gan ddibynnu ar faint a phrofiad y grŵp.
Er ei fod yn un o’r dramodwyr mwyaf byd y theatr mae gan ei dramâu a’r arddull enw am fod yn astrus ac yn anodd delio â nhw. Byddwn yn eich helpu i ymgorffori mesur moel ei ddramâu yn ogystal â dychwelyd at y straeon a ysbrydolodd Shakespeare a dramodwyr eraill y cyfnod - etifeddiaeth cyfoethog ac enfawr o chwedlau yr Hen Roeg a Rhufain, chwedloniaeth Cymru, Lloegr ac Ewrop, testunau poblogaidd y Canol Oesoedd a’r Dadeni yn ogystal â naratifau a symbolau crefyddol.
Gan ddibynnu ar hyd y cwrs byddwn yn edrych ar…
Gwaith paratoi’r corff a’r llais
Cefndir ffynonellau Shakespeare
Ymgorffori’r byd Shakespeareanaidd
Gweithio gyda rhythmau, elfennau ac egnïon gwahanol
Defnydd y gofod theatraidd
Cerddoriaeth fyw
Perfformiadau unigol a grŵp
Ffrwyth y gwaith a wnaed gan Paola a Michael I baratoi’r sioe Angerona yw’r gweithdy hwn. Sioe sydd yn cyfuno dulliau chwedleua cyfoes a Shakespeare sydd wedi cael ei pherfformio Yng Nghymru, yr Eidal a’r Dwyrain Pell.
Y mae Michael a Paola yn arweinwyr y mudiad chwedleua cyfoes yn Ewrop ac yn flaengar eu harbrofion ym maes y chwedl a Shakespeare.
Cyd-cyfarwyddydd y cwmni cynhyrchu chwedleua Raccontamiunaistoria yw Paola. Mae’r cwmni yn cynhyrchu a theithio perfformiadau yn ogystal â gwyliau chwedleua yn yr Eidal a’r Dwyrain Canol. Mae hi wedi derbyn hyfforddiant clasurol testunau Shakespeare ac yn dysgu crefft y chwedl a Shakespeare ym Mhrifysgol Link a’r Academi Drama Cenedlaethol yn Rhufain.
Ffigwr amlwg ym myd y chwedl yng Nghymru, Prydain ac Ewrop yw Michael. Mae wedi derbyn nifer o wobrau a chomisiynau, yn teithio yn rheolaidd gyda’r sioeau Hunting the Gwenieithus Daughter a Breuddwydio Cae’r Nos/Dreaming the Night Field gyda’r cwmni cynhyrchu Adverse Camber. Bu rhan o grŵp arbrofol Le Labo oedd yn rhan o La Maison du Conte, ganolfan chwedleua arloesol ger Paris ar ôl ennill Gwobr Cymru Creadigol.
“Rhoddodd cyfuniad y ddau diwtor brofiad cyfoethog a gwybodus i ni…Es i o fod yn rhywun hollol ddibrofiad i gymryd fy nghamau chwedleua cyntaf…Ar ôl y gweithdy synnais i fy hunan wrth adrodd yn gyhoeddus am y tro cyntaf…Roedd y gefnogaeth a’r agwedd bositif o help mawr…profiad cyfoethog…diolch i’r ymarferion es i drwy fy ofn a chyrraedd y stad o berfformio’n hyderus”