Yn 1871 roedd y casglwr chwedlau gwerin o fri François-Marie Luzel ar daith yn Llydaw ac un diwrnod cyrhaeddodd pentre o'r enw Plouaret a chyn hir roedd e'n gwrando ar Guillaume Garandel. Er ei fod e wedi clywed bob math o stori ar ei anturiaethau yn Llydaw rwy'n siŵr bod dim byd wedi'i baratoi ar gyfer y chwedl hon - menywod yng ngwisg dynion, camymddygiad rhywiol gan frenhines, dyn mawr wyllt blewog a diweddglo ffrwydrol (yn llythrennol!).
Perfformiwyd yn Saesneg hyd yn hyn ond os oes eisiau fersiwn Cymraeg mae dim ond eisiau gofyn.