Nid peth rhwydd yw camu o gyd-destun anffurfiol, arferol y chwedl i lwyfan fwy theatraidd. Mae angen ystyried sut mae’r llwyfan ehangach, y goleuadau ac ymddygiad y gynulleidfa mewn perfformiad ffurfiol yn wahanol i’r ystafell ddosbarth neu dafarn a defnyddio’r ffactorau hyn er mwyn lles y perfformiad a hwyluso agosatrwydd a grym y chwedl mewn llefydd mwy ffurfiol.
Unwaith ein bod ni wedi deall natur a rhinweddau’r llwyfan gallwn fynd ati er mwyn eu defnyddio at ein dibenion ein hunain a dod â phosibiliadau newydd i’r chwedl sydd ddim yn bosib mewn llefydd mwy anffurfiol. Y mae hyn yn cynnwys defnyddio mwy nag un storïwr yn adrodd gyda’i gilydd ar yr un llwyfan a defnydd mwy helaeth o bresenoldeb corfforol y perfformwyr a’r gofod theatraidd.
Yr wyf wedi ysgrifennu papur ymchwil ar gyfer Canolfan Chwedleua George Ewart Evans ym Mhrifysgol De Cymru o’r enw Staging the Story sydd yn rhoi arolwg o’r prif bwyntiau sydd yn codi wrth roi’r chwedl ar lwyfan. Mae’r posibiliadau newydd i’r chwedl ar lwyfan yn cynnwys…
Gofod Mae llawer mwy o le ar gael ond beth ydyn ni i fod i wneud gydag e? Edrychwn ar sut i symud yn y gofod mewn ffordd ystyrlon, syml a chwareus.
Perthynas â’r gynulleidfa Maen nhw’n bellach i ffwrdd o lawer nag arfer, yn eistedd mewn rhesi syth ac, yn aml iawn yn y tywyllwch. Mae angen cael sylw byw ac effro y gynulleidfa am mai crefft gyfranogol yw chwedleua. Byddwn yn gweithio ar sut i greu perthynas byw a chreadigol gyda’n gynulleidfa mewn gofodau theatraidd.
Nôl i’r sylfeini Lle rhithiol yw’r theatr ac mae angen mynd nôl at ein sgiliau a rhinweddau craidd a’u cadw wrth wraidd ein gwaith.
Dau yn adrodd ar lwyfan Y mae’r gofod ehangach yn gofyn am gael mwy nag un person yn adrodd ar lwyfan am yr un pryd. Gyda’r gwaith paratoi angenrheidiol y mae hyn yn gallu bod yn ffordd ddeinamig a greddfol o weithio ond mae eisiau sicrhau bod rhyddid i fyrfyfyrio wrth adrodd dal yn bosib. Defnyddiwn ymarferion syml ac ymarferol er mwyn cyflwyno hyn.
Llifo yn lle blocio Cam gwag yw gorfodi symudiadau a chiwiau ar chwedleuwyr ar lwyfan am fod hyn yn arwain at berfformiadau anystwyth a diflas. Byddwn yn edrych ar sut mae cadw perfformiadau'r chwedl ar lwyfan yn fywiog ac yn gyffrous ar gyfer storïwyr unigol a rhai mewn grŵp.