the balance of things
or, how to settle a debt with a chicken
Croeso i'r byd cyffrous a hudolus y chwedl Llydaweg lle cwrddwch chi â phrydferthwch swynol, hagrwch erchyll, ffrindiau rhyfedd a chyfiawnder llym â dogn hael o hiwmor. Mae'r sioe hon yn gyfuniad o nifer o straeon Llydaweg a gasglwyd yn bennaf gan Francois-Marie Luzel, wedi eu plethu at eu gilydd i greu antur ffraeth a chyfareddol sydd yn cyfuno bywyd beunyddiol, ffantasi, anifeiliaid doeth a phobl sy'n treial eu gorau glas i ymdopi.
“Mae angen storïwr da i wneud i chwedl ddod yn fyw ac mae Michael Harvey yn storïwr penigamp ac yn adrodd y stori hon mewn ffordd hynod o ddigri. Mae wrth ei fodd yn chwarae gydag elfennau mwy chwerthinllyd y stori a buon ni yn ymuno gyda’r rhannau sydd yn ailadrodd eu hunain a chredwch chi fi y mae e’n gallu dynwared dafad i’r dim - ac iâr hefyd, credwch neu beidio.”
Darllenwch weddill adolygiad Caroline yma.