chwedleua a'r corff

DSC03880.jpg

chwedleua a'r corff

gyda Franklin Method

 

Yn y gweithdy hwn cyflwynir nifer o dechnegau clir ac ymarferol fydd yn eich helpu dod o hyd i brofiad dyfnach a mwy pleserus o fod yn eich corff ac yn eich galluogi i fod yn fwy presennol, chwareus, clir, hyderus a dilys wrth i chi chwedleua. Seilir y gwaith ar symudiadau beunyddiol a'r math o symudiadau rydym yn eu gwneud wrth adrodd stori - fydd 'na ddim acrobatics neu gampau tebyg!

Y Franklin Method yw prif sylfaen y gweithdy yn ogystal â thechnegau rwy wedi dysgu ar hyd fy ngyrfa, yn arbennig yn ystod fy amser gyda'r grŵp chwedleua ‘Le Labo’ yng nghanolfan La Maison du Conte ym Mharis o dan arweinyddiaeth Abbi Patrix. Rwy wedi hyfforddi fel athro Franklin Method a byddaf yn addasu ac ehangu'r ymarferion er mwyn eu defnyddio gyda chwedleua.

DSC03869.jpg


Unwaith eich bod chi'n dechrau teimlo'n fwy rhydd a byw yn eich corff mae gennych ragor o ryddid i wneud dewisiadau mwy diddorol am y ffordd rydych chi'n adrodd. Byddwn ni'n edrych ar elfennau sylfaenol y grefft o adrodd straeon megis sut i ddefnyddio'r dulliau sydd yn ymwneud â disgrifiad/gweithred/gwybodaeth a sylwadau; defnyddio golwg y storïwr; y cysylltiad gyda'r gynulleidfa yn ogystal ag arfau eraill sydd yn cyd-fynd â'r gwaith corfforol.

Fel gweddill fy ngweithdai mae gan hwn ffocws hollol ymarferol. Byddaf yn arwain yr elfennau mwy technegol ac, achos mai gweithdy ar gyfer rhai sydd yn adrodd yn barod yw hwn, fydd cyfleoedd i arbrofi gyda'r grŵp. Bydd cymysgedd o waith gyda'r grŵp cyfan, grwpiau bach, parau ac yn unigol.

Mewn dim ond dau ddiwrnod mae’ch dysgu a dulliau wedi ail-ffocysu fy ngwaith chwedleua ac wedi fy symud i’r lefel nesaf... Dros y ddau ddiwrnod arweinioch chi fi i mewn i ddealltwriaeth ddyfnach o lawer o ble mae straeon yn byw yn fy nghorff a sut mae fy nghorff a’r straeon yn gweithio gyda’i gilydd wrth adrodd... Roeddwn i wrth fy modd dy fod ti’n gallu dathlu ein hunigrywiaeth a’n ffyrdd amrywiol o adrodd stori. Greaist ti le diogel i ni arbrofi, bod ein hunain a chwarae - am gyfle arbennig...Rwy’n meddwl bod y cwrs yn un bendigedig - yn codi ymwybyddiaeth o sut rydyn ni’n defnyddio’n cyrff ac yn ysbrydoledig yn y ffordd dechreuon ni feddwl am ein chwedleua. Wedi’i hwyluso yn wych er mwyn creu awyrgylch diogel er mwyn i ni arbrofi a dysgu oddi wrth ein gilydd...Cyfoethogodd y cwrs fy nealltwriaeth o’r hyn sy’n bosib ac wedi fy helpu teimlo’n fwy solet ac yn fy nghorff.
— adborth y cwrs